Llyfrgell dogfennau
Yn dilyn ein cyfnod ymgynghori ym mis Ebrill a mis Mai 2024, rydym bellach wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Penfro, ac mae’r cais hwn ar gael i’w weld ar-lein: https://planning.agileapplications.co.uk/pembrokeshire/application-details/41621
Ddydd Llun 22 Ebrill 2024, cychwynnodd RWE y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio statudol ar ei gynigion ar gyfer RWE Pembroke Green Hydrogen, gan ganiatáu i’r gymuned gael dweud ei dweud ar y cynigion cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Penfro.
Yn rhan o’r gofyniad statudol hwn, mae’n rhaid i fersiynau drafft o’r dogfennau cynllunio fod ar gael i’r cyhoedd. Gellir gweld neu lawrlwytho’r dogfennau hyn gan ddefnyddio’r dolenni isod.